Hafan > Angen Help > Dwi Angen Help

Dwi Angen Help


Cysylltwch gydag Enfys Alice

Ffurflen Atgyfeiri Dwi Angen Help

07496 925 401

enfysalice@felin-fach.co.uk

Clust i wrando


Gall Enfys Alice gynnig gofod saff a chyfrinachol i chi siarad am eich teimladau, unai yn eich cartref, mewn caffi, dwy fynd am dro neu dros y ffôn.

Cysylltwch â ni

2 par o ddwylo yn gafael panad o de
dwylo rywun yn llenwi ffurflen ac ar y ffôn

Cymorth


Mi fydd na gymaint o bobl i ffonio, ffurflenni i’w cwblhau, pethau i’w trefnu ...gall Enfys Alice gynnig cymorth ymarferol i’ch helpu efo’r holl faterion gweinyddol sydd angen sylw.

Cysylltwch â ni

Gwybodaeth


Beth sy’n digwydd nesa?  

Pwy all roi gwybodaeth a chyngor am wahanol faterion?  

Pwy dwi’n ffonio?  

Gall Enfys Alice eich helpu i ddod o hyd i’r atebion a chysylltu efo mudiadau allai helpu.

Cysylltwch â ni

person ar gliniadur, ac hefyd yn sgwennu ar bapur
person yn cerdded ci wrth i'r haul fynd i lawr

Cefnogaeth ymarferol


O nol siopa, pigo meddigyniaeth fyny o’r fferyllfa neu mynd a’r ci am dro – gall Enfys Alice helpu efo’r materion dydd i ddydd sydd angen ei wneud.

Cysylltwch â ni

Cefnogaeth yn y Gweithle / Ysgol


Gall Enfys Alice ymweld a’ch gweithle, grwp cymunedol, safle chwaraeon neu ysgol os wedi cael ei effeithio gan hunanladdiad. Cwblhewch y ffurflen arallgyfeirio ar ein gwefan neu ebostiwch enfysalice@felin-fach.co.uk I drafod eich anghenion.

Adeilad swyddfa diwydiannol modern gyda'r tu allan du a gwyn sgleiniog, ffenestri gwydr mawr, a thirwedd wedi’i drefnu’n daclus, wedi’i dynnu ar ddiwrnod clir.