Mae Enfys Alice yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion sydd wedi colli perthynas, ffrind, cymydog neu gydweithiwr drwy hunanladdiad, unai’n ddiweddar iawn neu yn y gorffennol. Rydym yn teilwro’r gefnogaeth yn unol a’ch anghenion chi, boed hynny drwy gysylltu gyda mudiadau ar eich rhan, gadael I bobl wybod beth sydd wedi digwydd, rhannu gwybodaeth ar beth sy’n digwydd nesaf, helpu I drefnu’r angladd, neu cynnig clust I wrando, mae’n dibynnu’n union beth rydych chi ei angen.
Cychwynwyd y daith I sefydlu Enfys Alice nol yn 2018, mewn cyfarfod i drafod Strategaeth Iechyd Meddwl BIPBC, pan safodd gwraig ar ei thraed a son iddi golli ei merch, Alice drwy hunanladdiad yn ddiweddar, a bod dim help na chefnogaeth ar gael iddi yn ystod y dyddiau ac wythnosau tywyll, a gwnaethpwyd y penderfyniad bryd hynny byddai gwasanaeth I gefnogi unigolion a theuluoedd yn dilyn hunanladdiad ar gael yng Ngogledd Cymru. Er ei bod wedi cymeryd blynyddoedd rydym yn falch iawn bod Enfys Alice wedi ei sefydlu.
Dyma Nina, mam Alice yn siarad amdani isod:
Rheolir gwasanaeth Enfys Alice gan Ganolfan Felin Fach, elusen sy’n cefnogi oedolion bregus yn ardal Pen Llyn ers dros 30 mlynedd.
