Hafan > Gwirfoddoli

Gwirfoddoli


Mae Enfys Alice yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr brwdfrydig a diolch yn fawr i chi am ddangos diddordeb mewn gwirfoddoli efo ni. Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais cysyllwch efo ni drwy ebostio enfysalice@felin-fach.co.uk

Oherwydd natur sensif y gwasanaeth ni allwn dderbyn cais i wirfoddoli os ydych wedi profi profedigaeth drwy hunanladdiad o fewn dwy flynedd i wneud y cais yma.  

Os hoffech sgwrs i drafod cyn gwneud cais plis cysyllwch efo ni drwy ebostio enfysalice@felin-fach.co.uk

Gwerthoedd


Mae’r Gwasanaeth yn drawma gwybodus, ac yn ymateb yn gyflym I gefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad neu amheuaeth o hunanladdiad. Ei nod yw:

E

Engage – Ymgysylltu

Cysylltu o fewn 24 awr o dderbyn gwybodaeth. Trefnu sgwrs I greu cynllun cefnogaeth gyda’r person sydd angen cefnogaeth

N

Navigate – Llywio

Bydd pobl yn wynebu gymaint o heriau. Mae taith pawb yn wahanol. Gallwn helpu pobl ddarganfod gwybodaeth a sustemau cefnogi sy’n angenrheidiol a pherthnasol I’w anghenion corfforol ac emosiynol.

F

Flexible  – Hyblyg

Gall trawma effeithio ar bawb yn wahanol. Bydd person sy’n galaru gyda gymaint o bethau I ymdopi a nhw. Mae’n rhaid i Enfys Alice fod yn hyblyg o ran dull a chyflenwi gwasanaeth.

Y

Yours – Chi

Mae Enfys Alice yn wasanaeth person-ganolog. I’r person sy’n derbyn y gwasanaeth “Eich gwasanaeth chi ydio, chi sy’n dweud, eich llais chi yw’r llais pwysicaf”

S

Signpost – Cyfeirio

Cydweithio ochr yn ochr gyda pobl I adnabod a chreu mynediad I wasanaethau maent eu hangen, ac I adeiladu system gefnogol unigryw o fewn eu cymuned.

Alice

Actively Listen wIth Compassion and Empathy.

Mae taith pob person yn unigryw iddynt hwy, ac hefyd eu anghenion. Felly hefyd gwasanaeth Enfys Alice.

Weithiau i wrando, weithiau I fynd a’r ci am dro.

Efallai helpu pobl ddeall gwybodaeth maent wedi ei dderbyn, neu helpu pobl baratoi gwybodaeth maent angen ei rannu.

Ymateb I’r anghenion ymarferol ac emosiynol hynny mewn ffordd garedig ar y pwynt yma o’u taith

Gwrando ar beth sy’n bwysig I’r unigolyn a chydweithio I gyrraedd pwynt ble maent eisiau bod

Rydym yn cydnabod ein bod yn gofyn I chwi wneud ymroddiad enfawr I gefnogi pobl yn y sefyllfa hon. Deallwn byddwch chi angen cefnogaeth hefyd.

Bydd hyfforddiant ar gael fel bod gennych y sgiliau priodol I gynnig y cefnogaeth gorau bosib

Bydd aelod profiadol o’r tim gyda chi pan yn ymweld ag unigolion yn y man cychwyn. Deallwn yr holl sialensau byddwch yn ei wynebu wrth gefnogi pobl sydd wedi colli riwin yn dilyn hunanladdiad. Byddwn ar gael I’ch cefnogi, cyn, yn ystod ac ar ol I chi gefnogi riwin.

Byddwch yn derbyn sesiynau arolygaeth a dadfriffio er mwyn sicrhau ein bod yn edrych ar eich ol chithau hefyd