Mae’r rhybydd preifatrwydd yma’n egluro beth rydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol
Manylion cysylltu
Post: Stryd Penlan, Mount Pleasant, Penlan Street, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE, GB
Telephone: 01758701611
Ebost: meinir@felin-fach.co.uk
Pa wybodaeth rydym yn ei gasglu, ei ddefnyddio, a pham
Rydym yn casglu neu ddefnyddio’r gwybodaeth isod er mwyn cynnig gwasanaeth, a chyfeiriadau gan ac i fudiadau eraill:
- Enw a manylion cysylltu
- Rhyw
- Dewisiadau rhagenw
- Cyfeiriadau
- Dyddiad geni
- Gwybodaeth iechyd (yn cynnwys cyflyrrau meddygol, canlyniadau profion, alergedd, anghenion meddygol a hanas meddygol)
- Gwybodaeth am anghenion gofal (yn cynnwys anableddau, cyflwr y cartref, anghenion ymborth a darpariaethau gofal cyffredinol)
- Gwybodaeth am anghenion gofal
- Cofnod o gyfarfodydd a phenderfyniadau
- Gwybodaeth am incwm ac anghenion ariannol er mwyn cynnig cefnogaeth ar faterion ariannol a chyllidebu personol
Seiliau cyfreithlon a hawliau diogelu data
Yn unol a Chyfraith Diogelu Data y DU, mae’n ofynol i ni gael seiliau cyfreithlon am gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae rhestr o seiliau cyfreithlon yn UK GDPR. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am seiliau cyfreithiol ar wefan yr ICO.
Gall pa seiliau cyfreithlon byddwn yn ddibynu arno effeithio ar eich hawliau diogelu data sydd wedi eu nodi isod. Gallwch ddarganfod mwy am eich hawliau diogelu data a’r eithriadau a all fod yn berthnasol ar wefan yr ICO.
- Eich hawl i fynediad – Mae gennych yr hawl I ofyn I ni am gopiau o’ch gwybodaeth bersonol. Cewch wneud cais am wybodaeth ychwanegol megis o ble rydym yn cael eich gwybodaeth bersonol, a gyda pwy buasem yn rhannu eich gwybodaeth bersonol. Mae rhai eithriadau sy’n golygu efallai na chewch yr holl wybodaeth rydych ei eisiau. Gallwch ddarllen ymhellach am eich hawl I fynediad yma
- Eich hawl i gywiriad – mae gennych yr hawl I ofyn I ni gywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol sydd, yn eich barn chi, yn anghywir neu’n anghyflawn. Gallwch ddarllen ymehllach am eich hawl I gywiriad yma
- Eich hawl i ddileu – mae gennych yr hawl I ofyn I ni ddileu eich gwybodaeth bersonol. Gallwch ddarllen ymhellach am eich hawl I ddileu yma
- Eich hawl i gyfyngu prosesu – mae gennych yr hawl i ofyn I mi gyfyngu sut gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Gallwch ddarllen mwy ar eich hawl I gyfyngu prosesu yma
- Eich hawl i wrthwynebu prosesau – mae gennych yr hawl I wrthwynebu prosesu eich data personol. Gallwch ddarllen mwy am eich hawl I wrthwynebu prosesau yma.
- Eich hawl i hygludedd data – mae gennych yr hawl I ofyn I ni drosglwyddo manylion personol roesoch I ni I fudiad arall, neu I chi, Gallwch ddarllen mwy am eich hawl I hygludedd data yma.
- Eich hawl i dynnu caniatad yn ol – pan fyddwn yn defnyddio caniatad fel ein sail cyfreithlon mae gennych yr hawl I dynnu eich caniatad yn ol ar unrhyw adeg. Gallwch ddarllen mwy am eich hawl I dynnu caniatad yn ol yma.
Os gwnewch cais mae’n rhaid I ni ymateb I chi yn ddi-oed ac o fewn un mis.
I wneud cais hawlio diogelu data cysylltwch gyda ni drwy ddefnyddio’r manylion cysylltu ar ben y rhybudd hwn.
Ein seiliau cyfreithlon er mwyn casglu a defnyddio eich data:
Ein seiliau cyfreithlon er mwyn casglu neu ddefnyddio’r gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth, a chyfeiriadau gan ac i fudiadau eraill:
- Caniatad – rydym wedi derbyn caniatad gennych yn dilyn ar ol I ni roi’r gwybodaeth berthnasol I chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, heblaw am eich hawl i wrthwynebu. I fod yn glir, nid oes gennych yr hawl I ddileu eich caniatad ar unrhyw adeg.
- Diddordebau hanfodol – rhaid casglu’r gwybodaeth pan fo iechyd corfforol, meddyliol neu lesiant unigolyn ar risg brys neu ddifrifol. Mae hyn yn cynnwys angen brys am fwyd, diod, dillad neu ddillad cynnal bywyd. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, heblaw am yr hawl i wrthwynebu neu eich hawl i gludadwyedd
O ble rydym yn cael eich gwybodaeth bersonol
- Yn uniongyrchol gennych chi
- Awdurdodau rheoleiddio
- Aelodau o’r teulu neu ofalwyr
- Darparwyr iechyd a lles eraill
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Elusennau neu fudiadau sector gwirfoddol
- Ysgolion, colegau, prifysgolion neu awdurdodau addysg eraill
- Heddlu Gogledd Cymru, NALS, Jack Lewis Foundation
Am faint byddwn yn cadw’r gwybodaeth?
Rydym yn cadw’r gwybodaeth yn ddiogel ac ar ffeil tra bod yr unigolyn yn derbyn cefnogaeth gennym, ac am 7 mlynedd wedyn o’r dyddiad daeth y gefnogaeth I ben, neu farwolaeth.
Rhannu gwybodaeth gyda pwy?
Rydym yn rhannu gwybodaeth bersonol gyda
- Darparwyr Iechyd eraill (ee Meddygon Teulu ac Ymgynghorwyr)
- Elusennau a mudiadau gwirfoddol
- Mudiadau sydd angen gwybodaeth oherwydd rhesymau Diogelu
- Gwasanaethau brys
Sut I wneud cwyn
Os oes gennych unrhyw gonsyrn am sut rydym yn defnyddio eich data personol, cewch wneud cwyn I ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ben y rhybydd preifatrwydd yma.
Os byddwch yn parhau I fod yn anhapus gyda’r ffordd rydym yn defnyddio eich data yn dilyn cwyn atom gallwch anfon cwyn I’r ICO.
Cyfeiriad yr ICO:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk/make-a-complaint
Diweddarwyd ar: 10/06/2025